Gwybodaeth am CIRITTL
Cenhadaeth CIRITTL
Cenhadaeth y grŵp yw adeiladu ar, ac ymestyn, ymchwil gydweithredol ryngwladol ac Astudiaeth Achos Effaith REF 2021, yn y defnydd o dechnolegau rhyngweithiol mewn dysgu ac addysgu ar gyfer pob oedran ac ym mhob cyd-destun. Mae technolegau rhyngweithiol, a’r amrywiaeth eang o dechnoleg y mae hyn yn ei gwmpasu, yn gallu cael eu defnyddio mewn sawl ffordd ym meysydd dysgu ac addysgu ar draws y system addysg.
Fodd bynnag, mae ymchwil a thystiolaeth yn aml yn brin. Er enghraifft, mae technoleg 360° a Realiti Rhithwir yn adrodd canlyniadau cyfyngedig, ond cadarnhaol, sy’n gofyn am ymchwil bellach (Sneed, Deringer a Hanley, 2021). Ynghyd â her ychwanegol technolegau newydd sy’n dod i’r amlwg, yn enwedig Deallusrwydd Artiffisial (AI), byddai’r grŵp ymchwil yn ceisio darparu arweiniad ac ymchwil i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer yn y dyfodol, o fewn y brifysgol a thu hwnt.
Oherwydd natur ryngddisgyblaethol technoleg, a’i rôl ym maes dysgu ac addysgu, nod y grŵp yw meithrin gallu ar draws y brifysgol gyda’r canlyniad o ddatblygu sylfaen ymchwil a thystiolaeth er budd Met Caerdydd a Chymru gyfan.


Nodau CIRITTL
Mae’r grŵp yn adeiladu ar rwydwaith ymchwil rhyngwladol sefydledig ac yn ei ymgorffori gyda Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD) [sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru am y tair blynedd diwethaf]. Mae’r rhwydwaith rhyngwladol yn cynnwys grŵp o naw arbenigwr rhyngwladol, gan gynnwys: MIT [Massachusetts Institute of Technology], UDA; Prifysgol Califfornia, UDA; Hogeschool PXL, Gwlad Belg; Prifysgol Galway, Iwerddon; Prifysgol Durham, y DU; Prifysgol Barcelona.
Ymhlith yr heriau allweddol mae twf cyflym technolegau rhyngweithiol a honiad Bauman (2000: xi) mai newid yw’r unig beth parhaol, ac ansicrwydd yw’r unig sicrwydd. Rydym ni eisoes wedi dechrau gwaith mewn technolegau datblygol ym maes addysg, yn enwedig Deallusrwydd Artiffisial (AI), a bydd y grŵp hwn yn adeiladu ar y gwaith hwn trwy dynnu ar gryfderau gwahanol lensys disgyblaethol.
Grŵp Arweinyddiaeth CIRITTL
Mae Grŵp Arweinyddiaeth CIRITTL yn cynnwys yr Athro Gary Beauchamp (trefnydd / cynullydd dynodedig y ganolfan), Dr Nick Young (arweinydd ymchwil cyswllt y ganolfan) a Dr Sammy Chapman (Cynorthwy-ydd Ymchwil a chyswllt ar gyfer prosiectau canolfannau cysylltiedig).
Yn ogystal, bydd un cynrychiolydd o bob ysgol yn y brifysgol hefyd yn rhan o Grŵp Arweinyddiaeth CIRITTL.
Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth CIRITTL yn cyfarfod, lle bo hynny’n briodol, bob tair wythnos. Mae’r cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar dasgau gweinyddol ar gyfer y ganolfan, yn ogystal â chynllunio ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau’r dyfodol ar draws y ganolfan.
Arweinyddiaeth CIRITTL

Cyfarfodydd CIRITTL
Cynhelir cyfarfodydd ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig â’r ganolfan ar ddydd Mercher olaf pob mis. Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i unrhyw un sy’n ymwneud â’r ganolfan ymchwil neu sy’n dechrau ymwneud â’r ganolfan dros amser.
Mae cyfarfodydd CIRITTL yn canolbwyntio ar weithgarwch ac ysgolheictod y ganolfan ymchwil, nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar unrhyw gyfleoedd sy’n codi, ond bydd yn cynnwys ysgrifennu cynigion, cynllunio prosiectau, erthyglau, lledaenu gwybodaeth a digwyddiadau a gweithgareddau CIRITTL.
Dod yn aelod
Os hoffech wybod mwy, neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o CIRITTL, yna cysylltwch â ni.









