iTILT: Technoleg mewn Addysgu Iaith
Prosiect iTILT2
Roedd prosiect iTILT2 yn adeiladu ac yn ehangu ar waith presennol ac yn rhoi cymorth pellach i ddysgwyr ac athrawon iaith i wneud y gorau o’r cyfleoedd caffael a gynigir gan dechnolegau addysgol. Roedd iTILT2 yn mynd y tu hwnt i’r bwrdd gwyn rhyngweithiol i ganolbwyntio ar ddatblygu dysgu ac addysgu ail ieithoedd yn effeithiol gydag ystod lawer ehangach o dechnolegau rhyngweithiol newydd a datblygol (megis dyfeisiau iPad, cyfrifiaduron tabled a meddalwedd fideogynadledda), yn annibynnol ac mewn cyfuniad. Roedd y cylch casglu data/datblygiad proffesiynol yn cynnwys datblygiad helaeth athrawon, gyda chyfraniad ymchwilwyr a chydweithio â chymheiriaid gan ddefnyddio dulliau wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac yna dau iteriad o ffilmio ystafell ddosbarth a chyfweliadau cyfranogwyr.
Mae’r adnoddau a ddatblygwyd i’w gweld ar dudalennau Llyfrgell ac Adnoddau iTILT.

Ein Partneriaid Rhyngwladol
Ar draws iTILT ac iTILT2 cyfrannodd y partneriaid rhyngwladol canlynol at ddatblygu adnoddau helaeth.
iTILT
- TELLConsult (Yr Iseldiroedd)
- Pädagogische Hochschule Heidelberg (Yr Almaen)
- Université de Nice – Sophia Antipolis (Ffrainc)
- British Council Barcelona (Sbaen)
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Cymru)
- Prifysgol Bilkent (Twrci)
- Prifysgol Antwerp – Sefydliad LINGUAPOLIS (Cydlynydd, Gwlad Belg)
iTILT2
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Cydlynydd, Cymru)
- Prifysgol Antwerp – Sefydliad LINGUAPOLIS (Gwlad Belg)
- Pädagogische Hochschule Schwäbisch Gmünd (Yr Almaen)
- Université de Nice Sophia-Antipolis (Ffrainc)
- TELLConsult (Yr Iseldiroedd)
- Prifysgol Bilkent / Prifysgol Hacettepe (Twrci)
Amcan
Amcan iTILT2 oedd hyrwyddo dysgu ac addysgu ieithoedd tramor effeithiol trwy gefnogi athrawon i integreiddio amrywiaeth o dechnolegau rhyngweithiol yn eu hymarfer cyfathrebu yn yr ystafell ddosbarth. Cyflawnwyd hyn trwy gynhyrchu gwefan amlieithog, gyda fideos ac adnoddau prosiect eraill ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon a darlithwyr cynradd, uwchradd ac addysg uwch.
Effaith ac Adnoddau
Llwyddodd y prosiect i ddatblygu, hyrwyddo a lledaenu arferion newydd ac arloesol wrth gefnogi addysgu ieithoedd rhyngweithiol mewn ieithoedd Ewropeaidd amrywiol gan ddefnyddio TGCh. Aeth y tîm ati i greu gwefan amlieithog o adnoddau addysgol agored i gynnal O1-4 o 117 o enghreifftiau fideo o’r defnydd o dechnolegau rhyngweithiol wrthaddysgu ail iaith, e-adnodd datblygiad proffesiynol, tri chanllaw byr a llyfrgell.
Mewn cydweithrediad ag athrawon, cafodd gweithgareddau ystafell ddosbarth eu cynllunio, eu ffilmio, eu golygu a’u tagio i gynhyrchu enghreifftiau fideos o sefyllfaoedd addysgu go iawn. Defnyddiwyd sylwadau athrawon a dysgwyr i ategu’r adnoddau fideo mewn ysgolion cynradd (Y DU, FR, DE) ac uwchradd (BE, FR) ac addysg drydyddol (TK, FR, DE), gydag adnoddau yn Gymraeg, Ffrangeg a Thwrceg. Yn ogystal, buom yn gweithio gydag athrawon i gynhyrchu e-adnodd datblygiad proffesiynol, treialu cymuned ymarfer ar-lein a chynhyrchu e-adnodd datblygiad proffesiynol a thri chanllaw byr. Roedd y wefan hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio ystod eang o fideos o’r sectorau gwahanol a lawrlwytho ein hadnoddau a dod o hyd i ystod o ddeunyddiau addysgu iaith eraill sy’n gysylltiedig â thechnoleg yn yr ieithoedd o’u dewis.
O ganlyniad, defnyddiwyd prosiectau iTILT ac iTILT2 fel astudiaeth achos Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Gallwch ddarllen mwy yma:
https://results2021.ref.ac.uk/impact/da5ea9a8-5f0d-4623-8d77-795cab3db435?page=1