Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF)
REF2029
REF yw system y DU ar gyfer asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU. Fe’i cynhaliwyd gyntaf yn 2014 a 2021.
Mae’r ymarfer nesaf wedi’i gynllunio ar gyfer 2029 ac mae CIRITTL, gan gynnwys ei bobl a’i bartneriaid cysylltiedig, yn paratoi i gyflwyno astudiaeth achos. Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn bo hir.

REF2021
Y cyfraniad mwyaf nodedig a wnaed yn ystod REF2021 yw’r astudiaeth achos ganlynol, sy’n dangos effaith prosiect wedi’i ariannu gan Erasmus+ (iTILT).
Gwella defnydd addysgwyr o dechnoleg wrth addysgu ieithoedd ledled Ewrop ac Ewrasia
Trwy gyllid grant gwerth €804K, fe wnaeth prosiect Technolegau Rhyngweithiol mewn Addysgu Ieithoedd (iTILT) effeithio ar waith addysgu iaith ac ymarfer addysgegol dros 9,300 o addysgwyr, gyda thua 50,000 o fyfyrwyr ledled Ewrop ac Ewrasia yn elwa ar hyn. Cynhyrchwyd deunyddiau cwrs mewn chwe iaith a mynychodd 1,327 o ymarferwyr addysgu weithdai iTILT. Dynodwyd iTILT yn ‘Stori Llwyddiant’ gan Erasmus+, categori sydd wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau sy’n amlwg am eu heffaith, eu cyfraniad at lunio polisïau, eu canlyniadau arloesol neu eu dull creadigol, ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i eraill.
Crynodeb o’r Effaith
Mae ymchwil ym Met Caerdydd wedi gwella’r defnydd o dechnoleg wrth addysgu ieithoedd modern yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Wedi’i ariannu gan werth €804K o grantiau i gyd, dylanwadodd dau gam y prosiect Technolegau Rhyngweithiol mewn Addysgu Ieithoedd (iTILT) ar addysgu iaith ac ymarfer addysgegol cyfathrebol dros 9,300 o addysgwyr, gydag amcangyfrif o 50,000 o ddisgyblion a myfyrwyr ledled Ewrop ac Ewrasia yn elwa ar hyn.
Cynhyrchwyd deunyddiau cwrs mewn chwe iaith a mynychodd 1,327 o ymarferwyr addysgu weithdai iTILT. Dynodwyd iTILT fel ‘Stori Llwyddiant’ gan Erasmus+, categori sydd wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau sydd wedi rhagori yn sgil eu heffaith, eu cyfraniad at lunio polisïau, eu canlyniadau arloesol neu eu dull creadigol, ac a allai fod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i eraill. Denwyd 36,013 o ymweliadau i wefan digwyddiadau’r prosiect yn ogystal â 82,000 a mwy ar y wefan curadu cynnwys Scoop.it.
Os hoffech wybod mwy am effaith iTILT, neu lawrlwytho fersiwn PDF o’r astudiaeth achos, cliciwch ar y botwm isod: