Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD)
Prosiect rhyng-brifysgol wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru yw prosiect Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD). Ar hyn o bryd, mae pob un o’r naw Prifysgol yng Nghymru yn bartneriaid yn y prosiect.
Ar draws y naw partner prifysgol mae nifer o academyddion ac ymchwilwyr yn cymryd rhan.
Mae’r holl aelodau yn cyfrannu at weithgarwch y prosiect ac yn cynnig safbwynt rhyngddisgyblaethol ar dechnolegau yn y maes dysgu ac addysgu. Mae yna 32 o gynrychiolwyr ar hyn o bryd.

Partneriaid WCLD
Grŵp Arbenigol Rhyngwladol
Yn ogystal â thîm y prosiect, darperir arbenigedd rhyngwladol gan Grŵp Arbenigol Rhyngwladol.
Mae’n cynnwys yr aelodau canlynol:
WCLD Rhyngwladol

Dr Joan-Tomàs Pujolà

Yr Athro Steve Higgins

Wouter Hustinx

Dr William Rankin

Dr Janet Twyman

Dr Andrew Joyce-Gibbons
Fideos Deallusrwydd Artiffisial (AI) WCLD
Fideo 1: Sut byddech chi’n esbonio Deallusrwydd Artiffisial i’ch dysgwyr?
Fideo 2: Sut byddech chi’n argymell defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn eich addysgu?
Fideo 3: Allwch chi roi rhai enghreifftiau i mi o sut mae dysgwyr yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn eich gwersi?
Archwilio Dylunio Dysgu mewn Addysg Gydamserol ac Anghydamserol
Nod y prosiect yw archwilio dylunio dysgu mewn addysgu a dysgu cydamserol ac anghydamserol, trwy labordai dysgu a labordai technoleg dysgu:
Datblygu Labordai Dysgu
Hwyluso trafodaethau a hyrwyddo syniadau am ddefnyddio technolegau gwahanol (er enghraifft sgrin werdd, fideo 360 gradd / realiti estynedig a thechnoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI)) mewn dysgu ac addysgu.
Datblygu Labordai Technoleg Dysgu (LTL)
Caniatáu i syniadau a ddatblygir gan athrawon / darlithwyr (er enghraifft ar sgrin werdd, fideo 360 gradd / realiti estynedig a Deallusrwydd Artiffisial) gyfrannu i ganlyniadau uwch-dechnoleg.
Mae’r labordai hyn yn fannau cydweithredol sy’n darparu cyfleoedd i athrawon ac ymarferwyr ledled Cymru i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr mewn sefydliadau addysg uwch i archwilio technoleg, addysgeg a dylunio dysgu.
Labordai Dysgu
Nod WCLD yw darparu lle diogel ac anfeirniadol i athrawon ac ymarferwyr i drafod ac archwilio’n ddamcaniaethol dechnolegau datblygol mewn ym maes dysgu ac addysgu. Mae’r rhain yn cael eu labelu fel ‘labordai dysgu’ ac mae pob sefydliad addysg uwch sy’n cymryd rhan yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn rheolaidd. Mae’r adran ganlynol yn manylu ar ddarpariaeth y labordai dysgu a’r themâu a gwmpaswyd gan bob labordy.
Beth yw labordai dysgu ym mhrosiect WCLD?
- Lluniad/ideoleg hyblyg, yn hytrach na dim ond gofod/adnodd penodol;
- Darparu cyfle â ffocws sy’n ddiogel ac anfeirniadol, boed ar-lein a/neu’n bersonol, i archwilio, creu, rhannu syniadau, dadansoddi heriau addysgol;
- Meithrin cysylltiadau rhwng syniadau a phobl er mwyn ymchwilio i heriau addysgol mewn amgylchedd diogel, agored a chydweithredol;
- Fforwm ar gyfer cymunedau amrywiol, pob un yn dysgu oddi wrth ei gilydd;
- Cyfleoedd i ddatblygu cymunedau newydd i gymryd ‘risgiau’, archwilio syniadau a chyd-adeiladu atebion posibl;
- Cyd-destun i dynnu sylw at broses (dylunio dysgu), nid canlyniadau yn unig;
- Symud o wybodaeth a dealltwriaeth am yr hyn sy’n digwydd, tuag at yr hyn y gallai fod;
- Rhoi arloesedd wrth galon y ddeorfa;
- Symud o ddylunio addysgu i ddylunio dysgu.
Themâu’r Labordy Dysgu:
- Cwricwlwm ac Addysgeg
- Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol
- Y Gymraeg a Dwyieithrwydd
- Tegwch a Chynhwysiant
- Cydweithio
Mae rhagor o wybodaeth am labordai dysgu ar-lein WCLD ar gael ar dudalen Eventbrite prosiect WCLD.
Labordai Technoleg Dysgu (LTLs)
Yn debyg i labordai dysgu WCLD, nod labordai technoleg dysgu yw darparu lle i ymarferwyr archwilio technolegau addysgol arloesol yn ymarferol a datblygu adnoddau o’r radd flaenaf y gallant eu defnyddio wedyn mewn ysgolion. Yn benodol, mae hyn yn seiliedig ar y technolegau canlynol:
- Sgrin Werdd
- Fideo 360-Gradd a Realiti Rhithwir
- Deallusrwydd Artiffisial
Mae gan bob prifysgol bartner dechnoleg o ansawdd uchel i ganiatáu i ymarferwyr ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol fanteisio ar offer a chyd-adeiladu adnoddau gyda thîm WCLD, wedi’u llywio gan egwyddorion dylunio dysgu effeithiol.
Mae hyn yn seiliedig ar fodel uwch-dechnoleg dwy ffordd – technoleg is i ganiatáu i syniadau addysgegol gael eu datblygu gan athrawon i ddod yn ganlyniadau ‘uwch-dechnoleg’ (y gellir eu defnyddio wedyn yn eu lleoliadau dysgu). Yn bwysicach, fodd bynnag, mae’r dull hefyd yn darparu dewisiadau amgen ‘technoleg is’ (sy’n adlewyrchu’r dechnoleg sy’n debygol o fod ar gael mewn ysgolion) a all ganiatáu i syniadau o’r fath gael eu datblygu ymhellach mewn lleoliadau addysgol.
Dysgu mwy
Os hoffech wybod mwy am WCLD, neu archwilio’r defnydd posibl o dechnoleg mewn dysgu ac addysgu, cysylltwch â Dr Sammy Chapman drwy [email protected]



